Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cynghori pobol i fod yn “ofalus” yn dilyn adroddiadau am alwadau ffug yn ardal Aberystwyth.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw wedi derbyn nifer o adroddiadau dros y penwythnos, yn enwedig gan bobol o Aberystwyth, am bobl yn esgus ffonio o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).

Mae’n debyg bod y galwadau ffug yn ymgais i gael gafael ar wybodaeth ariannol pobol, gan honni bod ganddyn nhw drethi i’w talu.

Yn ystod yr alwad, mae pobol yn cael eu holi i wasgu’r rhif 1 ar eu ffonau, cyn iddyn nhw gael eu trosglwyddo i berson sydd wedyn yn eu holi am fanylion banc.

Ac mewn rhai achosion, mae pobol yn cael eu bygwth yn gyfreithiol os nad ydyn nhw’n dilyn y gorchmynion.

“Rhowch y ffôn i lawr”

Yn ôl Paul Callar, aelod o Dîm Troseddau Ariannol y llu, dyw Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi byth yn “targedu” pobol yn y modd hwn, nac yn gofyn am arian neu fanylion personol dros y ffôn.

“Byddwch yn ofalus,” meddai. “Peidiwch â rhoi unrhyw arian neu fanylion personol.”

“Cofiwch, mae’n iawn i beidio â siarad â galwyr digroeso – jyst rhowch y ffôn i lawr.”