Bydd milwr o wersyll milwrol ym Mhowys yn mynd gerbron llys yn ddiweddarach heddiw.

Mae Mikko Vehvilainen, 33, yn is-gorporal yng Ngwersyll Pontsenni, ac yn wynebu cyhuddiad o fod yn aelodo grŵp asgell dde eithafol.

Mae hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o annog casineb hiliol ac o feddu ar ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth brawychol.

Yn ymuno ag ef yn y llys bydd y Preifat Mark Barrett, 24, fu’n gweithio mewn gwersyll milwrol yng Nghyprus, a dyn arall na ellir ei enwi oherwydd rhesymau cyfreithiol.

Mae’r tri wedi eu cyhuddo o fod yn aelodau o grŵp National Action – grŵp sydd wedi’i wahardd. Maen nhw’n gwadu pob cyhuddiad yn eu herbyn ac yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Bydd yr achos yn agor yn Llys y Goron Birmingham ddydd Llun (Mawrth 12) ac mae disgwyl i’r achos bara am hyd at bedair wythnos.