Mae bachgen 16 oed, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes, wedi ymddangos yn y llys drwy gyswllt fideo.

Mae’r llanc wedi’i gyhuddo o ladd Ffiona Scourfield, 54.

Daeth yr heddlu o hyd i’w chorff yn Fferm Broadmoor rhwng Sanclêr a Thalacharn yn Sir Gaerfyrddin wythnos ddiwethaf.

Yn Llys y Goron Abertawe heddiw cafodd y bachgen ei gadw yn y ddalfa mewn uned ddiogel ar gyfer pobl ifanc.

Fe fydd yn ymddangos gerbron y llys unwaith eto ar 18 Mai.

Roedd Ffiona Scourfield wedi cael ei magu yn Nhalacharn ac yn gwirfoddoli gydag elusen achub cwn German Shepherd Rescue UK.