Mae pennaeth un o brif theatrau gogledd Cymru wedi disgrifio’r digrifwr Ken Dodd, fel un a oedd yn “gweithio fel glöwr” yn ystod ei sioeau comedi.

Daeth y cyhoeddiad yn ystod oriau mân y bore heddiw (Mawrth 12), bod y digrifwr a’r canwr, Ken Dodd, wedi marw yn 90 oed, a hynny ychydig ddyddiau ar ôl iddo briodi.

Roedd y diddanwr o Knotty Ash ger Lerpwl, a oedd yn fab i löwr, yn enwog  am ei sioeau comedi a oedd yn para oriau, gyda’i ‘tickling stick’ a’i ‘Diddy Men’ yn rhannau canolog o’r sioeau hynny.

Ac yn ôl Gareth Owen, pennaeth Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl, a oedd yn nabod Ken Dodd yn dda, bu’n dyst i’r sioeau hirfaith hyn droeon.

“Y peth oedd yn anhygoel amdano, roedd o’n mynd ymlaen am hanner awr wedi saith, ac wedyn roedd y sioe’n gorffen am tua deg munud i un yn y bora,” meddai.

“Roedd o’n gweithio bron fel glöwr, yn meinio mewn i ryw seam, ac yna’n symud ymlaen at y seam nesaf ac yn y blaen ac yn y blaen…”

“Dyn anhygoel”

Mae Gareth Owen, sydd hefyd yn ddigrifwr ei hun, yn cofio sut yr oedd Ken Dodd yn awyddus i gael sgwrs ag ef yn ystod y sioeau hyn yng Nghymru.

“Roedd o wastad eisiau fy ngweld i yn yr egwyl…,” meddai eto. “Ac yn lle ymlacio, roedd o eisiau siarad am gomedi ac yn y blaen.

“Roedd o mor ddiddorol o ran ei observations ar gomedi. Roedd o’n medru bod yn swreal hefyd, ac yn glyfar dros ben gyda’i jôcs.”

Cysylltiadau Cymreig

O ran argraff Ken Dodd ar Gymru wedyn, mae’n dweud bod ei gyfnod fel efaciwi yn ardal Penmachno yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi “gadael ei ôl” arno.

“Roedd o’n teimlo bod yna gysylltiada’ cryf rhwng gogledd Cymru a Lerpwl.

“Ac roedd o’n dweud o hyd: ‘O!, fedra’ i siarad Cymraeg: DIM PARCIO!”

Dyma glip o Gareth Owen yn sôn yn llawnach am ei atgofion o’r diweddar gomedïwr…

[Clip Sain]