Mae Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth wedi datgelu y bydd yn adolygu’r posibilrwydd o ganiatáu lorïau i ddefnyddio lonydd bysiau er mwyn gwella llif y traffig.
Daw’r penderfyniad yn sgil cyhoeddi adroddiad blynyddol Comisiynydd Traffig Cymru, Nick Jones, a dadansoddiad yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Menter ac Isadeiledd.
Yn sgil hyn, ysgrifennodd y pwyllgor at Ken Skates, a bellach mae’r gweinidog wedi cytuno i adolygu defnydd o’r lonydd mewn “rhai amgylchiadau”.
Adolygiad
“Byddwn yn bwrw ati yn awr i gynnal trafodaethau â’r cyrff priffyrdd priodol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae’r rhain yn cynnwys y Comisiynydd Traffig, sefydliadau ffyrdd a chludo nwyddau, a grwpiau sydd â diddordeb ar draws y sbectrwm trafnidiaeth.
“Anelwn at gyhoeddi’r casgliadau yn 2019.”