Bydd gosod isafbris ar alcohol yn “gam mawr” tuag at leihau yfed niweidiol, yn ôl sefydliad sy’n ymgyrchu yn erbyn goryfed.

Daw sylw Alcohol Concern Cymru, rhai dyddiau wedi i un o bwyllgorau’r cynulliad ddweud nad “ateb syml” fyddai’r fath gam.

Pryder y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, oedd y gallai isafswm wthio yfwyr dibynnol at sylweddau eraill sy’n fwy niweidiol.

Yn ôl Cyfarwyddwr Alcohol Concern Cymru, Andrew Misell, fodd bynnag, mae pris alcohol yn ffactor holl bwysig wrth geisio mynd i’r afael â goryfed.

“Cam mawr”

“Gwyddon ni fod pris yn un o’r pethau pwysicaf sy’n penderfynu faint mae pobl yn ei yfed,” meddai Cyfarwyddwr Alcohol Concern Cymru, Andrew Misell.

“Ar y cyd â gwasanaethau o safon i helpu yfwyr dibynnol i roi darnau eu bywyd yn ôl at ei gilydd, bydd yr isafbris yn gam mawr tuag at leihau yfed niweidiol.”

Yr isafbris

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno isafbris o 50c ar bob uned o alcohol.

Yn ôl adroddiad a gafodd ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru’n ddiweddar gan Grŵp Ymchwil Alcohol ym Mhrifysgol Sheffield, mae poblogaeth Cymru’n prynu 50% o’u halcohol am lai na 55c yr uned.