Mae S4C yn parhau i drafod cytundeb darlledu gemau rygbi pwysig, wedi iddi ddod i’r amlwg bod BBC Cymru wedi colli’r hawl i ddangos gemau cystadleuaeth rygbi’r Pro14.

Gemau’r Scarlets, y Gleision, y Gweilch a’r Dreigiau yn y Pro14 sy’n gyfrifol am rai o ffigyrau gwylio ucha’r Sianel, gyda thros chwarter miliwn yn gwylio ambell gêm.

Ddydd Mawrth cyhoeddodd BBC Cymru eu bod wedi colli’r hawl i ddarlledu gemau’n fyw, ac yn ôl rhai adroddiadau bydd yr hawliau’n cael eu dyfarnu i ddarlledwr sy’n codi tâl am wylio.

“Allwn ni ddim gwneud unrhyw sylwadau tra bod trafodaethau masnachol yn parhau,” meddai llefarydd ar ran S4C wrth golwg360.

Mae S4C yn darlledu gemau Cymreig ar raglen Clwb Rygbi ac o ystyried poblogrwydd y rhaglen, nid yw’n glir sut effaith buasai colli’r hawliau darlledu yn cael ar y darlledwr.

Darllediadau chwaraeon uchaf S4C, 2016/17:

  1. Sgorio Rhyngwladol (Gweriniaeth Iwerddon v Cymru): 339,000 (gwyliwr)
  2. Clwb Rygbi (Glasgow v Gleision Caerdydd): 281,000
  3. UEFA Euro 2016 (Cymru v Gwlad Belg): 216,000
  4. Clwb Rygbi (Gweilch v Treviso): 214,000
  5. Clwb Rygbi (Leinster v Scarlets): 206,000
  6. Clwb Rygbi Rhyngwladol (Yr Eidal v Cymru (Dan 20)): 197,000
  7. Clwb Rygbi (Dreigiau v Scarlets): 180,000
  8. Clwb Rygbi (Gleision Caerdydd v Caeredin): 172,000
  9. UEFA Euro 2016 (Rwsia v Cymru):164,000
  10. Clwb Rygbi (Scarlets v Connacht): 163,000

Sky a BT

Mae Sky Sports eisoes yn darlledu rhai o gemau’r Pro14, ond yn gwrthod datgelu wrth golwg360 os ydyn nhw’n ceisio am yr hawliau darlledu.

Mae golwg360 wedi holi i BT Sports – un o ddarlledwyr chwaraeon pennaf y Deyrnas Unedig – os oes ganddyn nhw ddiddordeb.

BBC

Mewn datganiad i golwg360 mae BBC Cymru wedi ymateb trwy nodi eu bod yn “siomedig” o golli’r hawl i ddangos gemau Pro14, ond eu bod yn “hynod falch” o’u record yn darlledu’r gemau.

“Mae cannoedd o filoedd o gefnogwyr wedi mwynhau’r ddarpariaeth rygbi ar y BBC ers nifer o flynyddoedd, ac rydym yn gwybod y byddant yn hynod o siomedig efo’r cyhoeddiad hwn.

“Gobeithiwn allu parhau i gynnig uchafbwyntiau o’r gemau ar y teledu nos Sul, a byddwn yn mynd ati i geisio trafodaethau ar hyn gyda threfnwyr y gystadleuaeth.”