Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn poeni y bydd yna lawer llai o arian cyhoeddus i ffermwyr ar ôl Brexit.

Er mwyn osgoi hynny, rhaid darparu cyllid ar gyfer amaethyddiaeth y tu allan i’r dull arferol o ariannu Cymru, meddai’r undeb.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Prydain yn defnyddio ‘fformiwla Barnett’ i benderfynu faint o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru.

Ond pe bai’r fformiwla yn cael ei ddefnyddio ym maes amaeth ar ôl Brexit, fe fyddai ffermwyr yn derbyn “tua 40%” yn llai o gymorth ariannol, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru.

Mewn cyfarfod o’r Cyngor yn Aberystwyth, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi lansio ei ymgyrch ‘Cyllid Teg i Ffermwyr’ er mwyn tynnu sylw at yr angen ar frys i Lywodraeth Prydain egluro sut fydd y sector yng Nghymru yn cael ei ariannu ar ôl Brexit.

“Yn hanesyddol, mae’r arian i gefnogi ffermio yng Nghymru wedi dod o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, ond unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf bydd y cyswllt hynny’n cael ei dorri,” meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Alan Davies, wrth lansio’r ymgyrch.

“Bydd yn rhaid i unrhyw arian i gefnogi amaethyddiaeth ddod o Drysorlys y DU. Rydym eisoes wedi clywed y bydd y Llywodraeth yn ymrwymo’r un swm o arian i amaethyddiaeth ar gyfer gweddill tymor y senedd hon. Ond mae cymhlethdodau ynghylch sut bydd y cyllid hwnnw’n cael ei ddosbarthu.”

Pan ddosberthir arian “newydd” i adran y llywodraeth, esbonia Alan Davies, yn gyffredinol “canlyniad Barnett” i Gymru yw tua 5.6% o gyfanswm yr arian a ddosberthir.

“Yn hanesyddol, mae Cymru wedi derbyn tua 9.4% o gyfanswm dosbarthiad cyllideb PAC yr UE i’r DU. Byddai hynny’n cyfateb i £329 miliwn. Byddai Barnett yn lleihau ein cyllid o tua 40% ac ni ddylai hynny ddigwydd.”