Mae’r ffermwr aeth am wythnos heb fwyd yn “anhapus a siomedig” gyda’r BBC am beidio rhoi sylw i’w ympryd.

Fe gafodd Elfed Wyn Jones o Gwm Prysor yng Ngwynedd ei gyfweld ar sianel newyddion Russia Today yn ystod ei ympryd, tros ddatganoli’r pŵer tros ddarlledu o Lywodraeth Prydain i ddwylo Llywodraeth Cymru.

Ond er iddo gael ei holi ar gamera ddwywaith gan ddau o ohebwyr BBC Cymru – a hynny ar gychwyn ac ar derfyn ei ympryd – ni chafodd y cyfweliadau eu dangos.

Roedd Elfed Wyn Jones wedi “disgwyl sylw am fater fel yma” ar y BBC “gan fod ni’n talu fel gwlad am y gwasanaeth a’n disgwyl gwybodaeth”.

Ac mae’r myfyriwr 20 oed yn credu bod yna benderfyniad bwriadol gan y BBC i gyfyngu’r drafodaeth ar ddatganoli darlledu i Gymru.

“Gan fod hwn yn rhywbeth sy’n effeithio’r BBC mae’n amlwg fod pryder ganddynt am adnabod digwyddiad fel hwn,” meddai Elfed Wyn Jones gan ychwanegu ei fod yn “falch fod Russia Today wedi gwrando ar fy stori ac wedi rhoi llais i ni yn yr ymgyrch”.

BBC yn taro nôl

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi sgrifennu llythyr at y BBC yn cyhuddo’r Gorfforaeth o ‘wneud penderfyniad Golygyddol pwrpasol i beidio â rhoi sylw i ympryd Elfed Wyn Jones…

‘Credwn yn gyffredinol bod portread diweddar y BBC o’r drafodaeth am ddatganoli wedi bod yn negyddol a dangos tuedd’.

Ond mae’r BBC wedi taro nôl gan fynnu eu bod “wedi ymrwymo i adlewyrchu straeon newyddion mewn modd diduedd ac mae penderfyniadau ar straeon neu gyfweliadau unigol yn dibynnu ar ystod eang o ffactorau.

“Ar y pwnc o ddatganoli pwerau, mae BBC Cymru wedi rhoi sylw i’r mater ar draws ei gwasanaethau yn ddiweddar mewn nifer o adroddiadau gan adlewyrchu ystod eang o safbwyntiau.”