Mae Prif Gwnstabl eisiau mwy o arian i blismona gemau rygbi Cymru a chyngherddau roc a phop.

 Yn ôl prif gopyn Heddlu’r De mae cost plismona cyngherddau a gemau chwaraeon yng Nghaerdydd ac Abertawe wedi codi 50% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Matt Jukes fod angen arian ychwanegol ar yr heddlu i dalu am y cynnydd mewn costau sydd wedi bod oherwydd y lefel gynyddol o fygythiadau terfysgol.

Mae Heddlu De Cymru yn gofalu am tua 200 o ddigwyddiadau mawr y flwyddyn, gan gynnwys gemau rygbi rhyngwladol a chyngherdd Take That yn Stadiwm Liberty Abertawe.

Dywedodd Matt Jukes wrth y BBC fod yr ymosodiadau ym Manceinion a Llundain y llynedd – ynghyd â’r saethu yn neuadd y Bataclan ym Mharis yn 2015 – wedi golygu fod costau plismona cyngherddau a digwyddiadau mawr wedi cynyddu wrth iddyn nhw orfod cyflogi swyddogion arfog.