Byddai modd codi statws athrawon yng Nghymru trwy ddatganoli’r cyfrifoldeb tros eu tâl a’u hamodau, yn ôl Ysgrifennydd Addysg Cymru.

Dywedodd Kirsty Williams y byddai undebau, athrawon a gweinidogion yn “cytuno ar ffordd deg, synhwyrol a chynaliadwy” o bennu cyflogau yn y maes addysg.

“Rydym wedi bod yn hollol glir nad oes unrhyw gwestiwn o athrawon yn cael eu talu llai nag athrawon yn Lloegr,” meddai.

Mae Llywodraeth Cymru nawr yn lansio ymgynghoriad ar y broses y dylent ei defnyddio i benderfynu ar gyflog ac amodau.