Mae bachgen 16 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dynes yn Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin, meddai’r heddlu.

Cafwyd hyd i gorff Ffiona Scourfield, 54, mewn eiddo yn yr ardal ar ôl i’r heddlu gael eu galw yno tua 5.47yh nos Fawrth.

Fe fydd y llanc yn mynd gerbron Llys Ynadon Llanelli heddiw (9 Mawrth)

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa a dywed Heddlu Dyfed Powys nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae teulu Ffiona Scourfield yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Roedd Ffiona Scourfield yn gweithio i UK German Shepherd Rescue.

Fe fu ei chydweithwyr yn rhoi teyrnged iddi ddydd Mawrth gan ddweud bod Ffiona Scourfield yn gweithio’n ddiflino “i wneud y byd yn lle gwell i anifeiliaid.”