Mae dyn wedi marw yn dilyn damwain ffordd angheuol ar draffordd yr M4 ger Casnewydd fore heddiw (dydd Iau, Mawrth 8).

Toc wedi 5yb heddiw, fe gafodd yr heddlu eu galw at ddarn o’r M4 ger twneli Brynglas, ar ôl i berson gael ei daro gan gar.

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle, ac mae’r heddlu’n parhau i geisio adnabod y corff.

Fe gafodd dau berson eu cludo i’r Ysbyty Frenhinol Gwent yn dilyn y digwyddiad, lle maen nhw’n derbyn triniaeth ar gyfer mân anafiadau.

Mae’r darn gorllewiniol o’r M4 lle digwyddodd y ddamwain bellach wedi ailagor, ac mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.