Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i lofruddiaeth dynes y cafwyd hyd i’w chorff ar dir fferm yn Sir Gaerfyrddin nos Fawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r eiddo yn ardal Sanclêr am oddeutu 5.47yh.

Mae llanc 16 oed wedi’i arestio ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall, ac mae teulu’r dynes a’r crwner wedi cael gwybod.