Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno diwygiada

Mae bron i chwarter o bobol yng Nghymru yn byw mewn tlodi, yn ôl adroddiad newydd.

Yng Nghymru mae 710,000 o bobol yn byw mewn tlodi, yn cynnwys 185,000 o blant; 405,000 o oedolion; a 120,000 o bensiynwyr.  

Ac o wledydd Prydain, Cymru sydd â’r ganran uchaf o’i phoblogaeth yn byw mewn tlodi, yn ôl adroddiad Sefydliad Rowntree.

O ganlyniad i hyn, mae’r sefydliad yn galw ar Lywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â’r broblem trwy gyflwyno newidiadau.

“Llacio gafael tlodi”

“Rydym yn erfyn ar wleidyddion Bae Caerdydd a San Steffan i weithio â busnesau i ail-drefnu’r farchnad swyddi a chartrefi, er lles pobol sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru,” meddai Prif Weithredwr Sefydliad Rowntree, Campbell Robb.

“Mae llacio gafael tlodi ar fywydau teuluoedd incwm isel yn hanfodol os yw agenda ffyniant Llywodraeth Cymru i lwyddo. Mae newid yn bosib.”

Argymhellion

Yn yr adroddiad, mae’r sefydliad yn cydlwyno tri argymhelliad i Lywodraeth Cymru, sef:

  • Gweithio gyda busnesau er mwyn creu rhagor o swyddi
  • Lleihau costau trwy adeiladu rhagor o dai fforddiadwy
  • Sicrhau fod pobol ifanc yn gadael yr ysgol â’r sgiliau y maen nhw eu hangen

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.