Hanner can mlynedd wedi dad-griminaleiddio bod yn hoyw, fe fydd gweinidog Undodaidd heno yn trafod ei frwydr bersonol i gydnabod ei rywioldeb.

Ar raglen Y Byd Ar Bedwar ar S4C fe fydd Wyn Thomas, gweinidog a mab ffarm o Geredigion, yn sôn am y tro cynta’ am sut y buodd e’n celu ei fod e’n hoyw am flynyddoedd.

Daeth hynny i ben dri mis yn ôl pan briododd gyda Matthew, ei bartner ers 14 o flynyddoedd, ychydig cyn y Nadolig.

Er ei fod e’n dweud ei fod wedi cael ymateb da yn gyffredinol ar ôl ‘dod allan’, mae’n cyfadde’ nad yw ei dad wedi gallu derbyn ei fod e’n hoyw.

Profiad cyn-drefnydd y brifwyl

Ar Y Byd Ar Bedwar fe fydd Wyn Thomas hefyd yn cyfarfod tri dyn yn eu saithdegau wnaeth fyw trwy gyfnod pan oedd cynnal perthynas rywiol â dyn arall yn anghyfreithlon, ac yn holi pa effaith mae eu profiadau nhw wedi ei gael ar fywydau pobol hoyw heddiw.

Un o’r tri yw cyn-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Hywel Wyn Edwards, sy’n dweud nad oedd ei rywioldeb yn rywbeth wnaeth e’ erioed ei drafod gyda’i rieni na’i deulu agos.

Fe fydd e’n datgelu sut y cafodd ef, fel athro ifanc, ei reportio i awdurdodau’r ysgol lle roedd e’n gweithio oherwydd ei fod wedi dechrau perthynas gyda dyn arall.

Y Byd Ar Bedwar: Yr Hyn Wyf i, S4C, heno am 9.30yh