Mae Plaid Cymru yn dioddef “sgitsoffrenia gwleidyddol” ac yn cael ei ystyried yn was i’r Blaid Lafur gan bleidleiswyr, meddai cadeirydd plaid newydd, ‘Ein Gwlad’.

Dyna pam, meddai Gwilym ab Ioan, y mae’r blaid newydd yn gobeithio denu cyn-aelodau Plaid Cymru sydd wedi’u dadrithio.

“Problem Plaid yw bod hi wedi cael y sgitsoffrenia yma,” meddai Gwilym ab Ioan wrth golwg360.

“Mae’n cael ei gweld gan un rhan o’r wlad fel [plaid] i’r Cymry Cymraeg, ac mewn rhannau eraill fel plaid sy’n closio at y Blaid Lafur a pholisïau sosialaidd, a’n dueddol i’r [Cymry di-gymraeg].

“Dydyn ni ddim am yr hollt yna. Rydyn ni’n blaid sy’n cynnwys pawb yng Nghymru. A pan dw i’n dweud pawb yng Nghymru, dw i’n eithrio’r bobol sydd wedi symud i mewn.”

Y Blaid Lafur

I Gwilym ab Ioan, mae’n anodd gwahaniaethu rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur bellach, ac mae’n nodi bod y cyhoedd yn anhapus nad yw’r cenedlaetholwyr yn fwy ymosodol.

“Mae yna lawer o bobol sy’n teimlo’n ddug nad yw Plaid Cymru yn ymosod ar Lafur yn y Cynulliad,” meddai wrth golwg360.

“Mae Leanne Wood yn fwy tebygol o gydio llaw a chefnogi’r Blaid Lafur mewn pob ffordd y gallai. Dyw pobol Cymru ddim angen hynna.”

Daw’r sylwadau wedi iddo nodi fod “pob plaid sydd yng Nghymru ar hyn o bryd” i gyd yn gweithredu o fewn “patrwm” sydd wedi “chwythu’i phlwc”.

Plaid Cymru

Mae Gwilym ab Ioan yn gyn aelod o Fwrdd Gweithredol Plaid Cymru, a bu iddo ymddiswyddo yn sgil ffrae tros y Gymraeg a mewnfudo.

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.