Mae awdur o ardal y Preseli yn dweud bod nifer o bobol “yn gytûn” y dylir codi cofeb i gofio am fardd a chomiwnydd o Sir Benfro.

Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd Hefin Wyn o Faenclochog gofiant i T E Nicolas, neu ‘Niclas y Glais’, a gafodd ei eni a’i fagu yn ardal Pentregalar, ger Hermon.

Ac ers cyhoeddi’r Ar Drywydd Niclas y Glais, mae wedi cael cryn ymateb i’w syniad ynglŷn â chodi cofeb i’r “comiwnydd rhonc”. Mewn cyfarfod yng Nghrymych neithiwr (nos Lun, Mawrth 5) fe ddechreywyr ar y gwaith cynllunio.

“Mae’r peth wedi magu momentwm,” meddai Hefin Wyn wrth golwg360. “Mae pobol eraill yn gytûn [y dylir codi cofeb], ac nid dim ond pobol yn yr ardal, ond pobol o rannau eraill o Gymru hefyd…

“Ry’n ni wedi cael negeseuon o Bontypridd, Aberdâr ac o Flaenau Ffestiniog ac ati yn cefnogi’r bwriad, felly mi roedd ei ddylanwad e, [Niclas y Glais], yn ehangach o lawer na dim ond pobol y Preselau, ac mae pobol yn cydnabod hynny.”

“Anrhydeddu” Niclas y Glais

Yn ôl Hefin Wyn, mae’n credu y dylai Niclas y Glais gael ei “anrhydeddu” yn yr un modd ag  enwogion eraill yr ardal, megis y bardd, Waldo Williams a’r diddanwr, W R Evans.

“Mae yna bobol er’ill yn y cyffiniau fel Waldo Williams a W R Evans, mae’r rheiny eishws wedi ca’l eu hanrhydeddu,” meddai, “ac fe ddyle Niclas felly fod yn yr un gynghrair â nhw, fel petai.

“Roedd [Niclas y Glais] mor barod i ddweud ei farn a dal at ei farn, waeth beth oedd ymateb pobol er’ill.

“Roedd ganddo weledigaeth hyglir iawn, iawn, a’r ffaith ei fod yn hanu o’r ardal, a bod yna radicaliaeth yn perthyn iddo.”

Y bwriad yw codi maen hir, tebyg i’r cofebau sydd i Waldo Williams a W R Evans, ar dir comin yn ardal Crugiau Dwy rhwng Crymych a Maenclochog, sydd rhyw hanner milltir o’r man lle cafodd Niclas y Glais ei eni.

Bywyd Niclas y Glais

Fe gafodd T E Nicholas, neu ‘Niclas y Glais, ei eni a’i fagu ar fferm Y Llety ym Mhentregalar, Sir Benfro.

Daeth i amlygrwydd fel pregethwr ar ddechrau’r 20fed ganrif, a hynny tra oedd yn bregethwr yr annibynwyr ym mhentre’r Glais yng Nghwm Tawe rhwng 1904 a 1914.

Yn ystod y cyfnod hwn a blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf, fe fu’n gyfeillgar gyda sylfaenydd y Blaid Lafur Annibynnol, Keir Hardie, ac yn 1918 fe ymgeisiodd am sedd Aberdâr yn yr Etholiad Cyffredinol ar ran y blaid honno.

Ymunodd â’r Blaid Gomiwnyddol ar ddechrau’r 1920au, tra oedd yn ddeintydd yn ardal Aberystwyth, ac yn 1940 fe gafodd ei garcharu yng ngharchardai Abertawe a Brixton.

Yno, fe gafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu toreth o sonedau – gan ddefnyddio papur tŷ bach y carchar i’w nodi.