Fe fydd Cyngor Dinas Caerdydd yn trafod cynigion ar gyfer agor mynwent newydd yng ngogledd y brifddinas yr wythnos hon (dydd Iau, Mawrth 8), a hynny er mwyn datrys y broblem o brinder mannau claddu.

Mae’r safle sydd wedi’i chynnig, sef tir sydd eisoes yn eiddo i’r Cyngor ac ar brydles fel tir fferm, wedi’i lleoli tua’r gogledd o’r M4 ac ar yr A469.

Pe bai’n derbyn caniatâd cynllunio a chadarnhad gan y Cabinet, fe fydd y mynwent newydd maint 12.5 erw yn cynnig man claddu ar gyfer y 35-40 blynedd nesaf.

Yn ogystal, mae’r agosatrwydd at fynwent Draenen Pen-y-graig, sydd ond 650 metr gerllaw, yn golygu y bydd yna lai o gostau adeiladu a gweinyddu gyda’r safle newydd.

“Ateb cost-effeithiol”

Yn ôl y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd, fe fydd y safle sy’n cael ei chynnig yn rhoi “ateb cost-effeithiol” i’r ddinas.

“Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig,” meddai, “felly mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gynnig cyfleusterau claddu i’n preswylwyr yn y tymor byr a’r hirdymor.”

Prinder beddau yng Nghaerdydd

Mae Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd yn claddu cyfartaledd o 1,350 o bobol y flwyddyn, gyda 700 o’r rheiny ym Mynwent Draenen Pen-y-graig, sy’n cynnwys 200 bedd newydd bob blwyddyn.

Cafodd y safle, sydd bellach yn 45 erw, ei agor yn 1952. Ond nid yw’n bosib ei hymestyn ymhellach oherwydd ei fod yn ffinio â thai a ffyrdd.