Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n dangos sut y gall ffermwyr llaeth wella eu busnes a pharatoi ar gyfer y cyfnod wedi Brexit.
Yn 2017, fe roddodd Llywodraeth Cymru £3.2 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd i ffermwyr llaeth yng Nghymru, a hynny trwy gyfrwng dau gynllun a oedd yn canolbwyntio ar gofnodi perfformiad busnesau llaeth.
Yn cyd-fynd â’r cymorth ariannol hwn, roedd y ffermwyr hefyd yn derbyn adroddiad a oedd yn dangos cryfderau a gwendidau eu busnes nhw’n benodol o’i gymharu â ffermydd busnes eraill.
Mae’r data hwn wedyn wedi cael ei ddefnyddio i lunio adroddiad sy’n rhoi cipolwg ar berfformiad ffermydd llaeth yn gyffredinol yng Nghymru.
Angen “paratoi’n iawn” cyn Brexit
Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, mi fydd yr adroddiad hwn yn helpu ffermwyr i “wella perfformiad eu busnes” trwy leihau costau cynhyrchu, gan sicrhau yn y pendraw bod ffermydd llaeth yn “fwy effeithlon”.
Mae’n ychwanegu y bydd yr adroddiad hwn hefyd yn gymorth i’r diwydiant amaeth “baratoi’n iawn” ar gyfer Brexit.
“Dw i’n annog pob ffermwr godro yng Nghymru a’r diwydiant yn ehangach i ddefnyddio’r data sydd ar gael i’w helpu i baratoi ar gyfer y byd wedi Brexit, ac i helpu i sicrhau y gall eu busnesau wrthsefyll unrhyw beth a bod yn llewyrchus,” meddai Lesley Griffiths.
Yr adroddiad
Ymhlith y prif bwyntiau sy’n cael eu cyflwyno yn yr adroddiad mae:
- Pa mor bwysig yw hi fod ffermwyr yn mynd ati’n rheolaidd i fesur perfformiad eu busnes;
- Mae’r ffermydd sy’n perfformio orau yn dangos bod modd gwneud elw pan fo prisiau llaeth yn isel;
- Mae costau cynhyrchu mewn rhai ffermydd yn fwy na’r pris llaeth uchaf erioed;
- Dylai ffermwyr sicrhau digonedd o borfa er mwyn cynhyrchu mwy o laeth;
- Angen sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid er mwyn lleihau effaith ariannol clefydau.