Mae disgwyl i dref yn Sir Gaerfyrddin groesawu “toreth o dalent” gan gynnwys “cewri llenyddol Cymru”, yn ystod gŵyl yno fis nesa’.

Bydd Gŵyl Hwyl Llên Llandeilo yn dechrau ar Ebrill 26; yn para am bedwar diwrnod; ac yn denu llenorion, beirdd, digrifwyr a cherddorion ledled Cymru.

Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan mae’r newyddiadurwr, Lyn Ebenezer; y bardd Menna Elfyn; yr awdur Jon Gower; a’r llenor Owen Sheers.

Bydd ffair lyfrau yn cael ei chynnal yn Neuadd Ddinesig Llandeilo ar benwythnos yr ŵyl, ac mi fydd yna sesiynau i blant gan gynnwys helfa lluniau.

“Braint”

“Mae’n wych bod rhai o gewri llenyddol Cymru, fel Owen Sheers a Menna Elfyn,  sy’n mynychu gwyliau dros bedwar ban byd yn dod i Ddinefwr,” meddai un o’r trefnwyr, Christoph Ffischer.

“Ac mae’n fraint bod Bardd Cenedlaethol Cymru [Ifor ap Glyn] wedi dewis lansio ei gyfrol newydd ddwyieithog, Cuddle Call, (gellir ei darllen yn Gymraeg neu yn Saesneg!) yn yr Ŵyl.”