Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion ar ôl i yrrwr beic modur gael ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Nhreforys ger Abertawe ddydd Sul.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Nissan Note Llwyd a beic modur Honda MSX 125cc lliw gwyn yn heol Mynydd Garnllwyd, Treforys tua 11.45yb ddydd Sul, 4 Mawrth.

Cafodd gyrrwr y beic modur, dyn 24 oed o Sgeti, ei gludo i Ysbyty Treforys. Mae ei anafiadau yn cael eu disgrifio fel rhai sy’n bygwth ei fywyd.

Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu ac ni chafodd unrhyw eu harestio, meddai’r heddlu.

Bu’r ffordd ynghau tan tua 6yh wrth i swyddogion gynnal ymchwiliad ar y safle.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y cerbydau cyn y gwrthdrawiad, neu a oedd wedi rhoi cymorth.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar  0800 555 111, gan nodi’r cyfeirnod *077377.