Wrth i’r tywydd eithafol yr wythnos ddiwethaf ostegu, bydd cannoedd o ysgolion yng Nghymru yn ailagor heddiw.

Er hynny mae dros 120 o ysgolion – yn bennaf yn Nhorfaen, Blaenau Gwent a Chaerffili – yn parhau ynghau oherwydd eira a rhew.

Mae rhwng 3,000 a 6,000 o gartrefi heb gyflenwad dŵr, yn ol Dŵr Cymru.

“Heriau digynsail”

Mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod yn parhau i ddelio â “heriau digynsail ar draws [eu] rhwydwaith” a bod cyflenwadau dŵr rhai cwsmeriaid wedi’u heffeithio.

Y gogledd orllewin, Dyfed a de Cymru sydd wedi’u heffeithio fwyaf, ac mae disgwyl i’r problemau barhau am “rai diwrnodau”.

“Rydym wir yn sori am hyn,” meddai llefarydd ar ran y cwmni. “Rydym yn gwneud pob dim posib i gywiro’r byrstiau ac unrhyw ollyngiadau fel bod modd i ni gynnal cyflenwadau a pharhau i weithio dros nos.”

Trafferthion ar y rheilffyrdd

Mae Trenau Arriva Cymru wedi rhybuddio bod eu teithiau ddydd Llun, yn “debygol iawn” o gael eu “heffeithio’n sylweddol”.

Bydd rheilffordd Dyffryn Conwy a rheilffordd Calon Cymru ar gau yn ôl y cwmni drenau, ond bydd trafnidiaeth ffordd ar gael rhwng ambell orsaf.