Mae un o’r ymgeiswyr ar gyfer dirprwy arweinyddiaeth Llafur Cymru, Julie Morgan yn galw am ostwng yr oedran pleidleisio yng Nghymru i 16.
Mae hi am weld yr oedran yn gostwng ar gyfer etholiadau cyffredinol, etholiadau’r Cynulliad ac etholiadau lleol, gan ddweud bod mwy o ddiddordeb gan bobol ifanc mewn gwleidyddiaeth erbyn hyn.
Mae hi’n tynnu sylw at y ffaith y gall pobol 16 oed ymuno â’r fyddin a phriodi, a bod disgwyl iddyn nhw dalu trethi.
Daw’r alwad yn dilyn adroddiad panel, sy’n argymell rhoi’r bleidlais i bobol 16 ac 17 oed yng Nghymru ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.
Ymrwymo pobol ifanc
Dywedodd Julie Morgan: “Ymhen llai na mis, fe ddylai fod gennym y grym yma yng Nghymru i ymestyn y bleidlais i bobol 16 ac 17 oed ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn ogystal ag etholiadau llywodraeth leol.
“Dw i’n credu ein bod ni wedi cyrraedd y dibyn yng Nghymru – a nawr mae angen gwthio am y tro olaf i sicrhau cefnogaeth San Steffan hefyd.
“Nawr yw’r amser i wthio hwn yn ei flaen, yn enwedig gan fod cynifer o bobol ifanc wedi’u denu at y Blaid Lafur ac yn ymrwymo go iawn i wleidyddiaeth.”
Mae gostwng yr oedran pleidleisio’n bolisi gan Lafur Cymru ers 2008 yn dilyn Mesur Aelod Preifat Julie Morgan. Fe gyrhaeddodd y mesur ail ddarlleniad, ond doedd dim digon o amser i fynd ymhellach.
Ychwanegodd: “Dw i’n edrych ymlaen at ddod â hwn i’r Cynulliad – nawr mae angen i’n cydweithwyr yn San Steffan wthio hwn yn ei flaen yn y senedd.”