Mae’r academydd blaenllaw, yr Athro Ruth McElroy wedi rhybuddio yn erbyn datganoli darlledu i Gymru.

Drwy rannu ffi’r drwydded yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar sail poblogaeth y gwledydd unigol, meddai, fe fyddai Cymru’n derbyn llai na’r gwledydd eraill.

Caiff y BBC ac ITV eu rheoleiddio gan Ofcom, ac S4C wedi’i hariannu’n bennaf drwy ffi’r drwydded ynghyd â grant gan Lywodraeth Prydain.

Dywedodd yr Athro Ruth McElroy wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC: “Mae’n aneglur pa ddull fyddai’n cael ei ddefnyddio i godi arian.

“Os cymerwn ni’r BBC er enghraifft. Ar hyn o bryd, rydym yn talu amdani drwy dalu ffi’r drwydded.

“Un ffordd o’i gwneud hi fyddai torri’r arian yn briodol fesul poblogaeth yr amryw wledydd.

“Fe allai hynny olygu, mewn gwirionedd, ein bod ni’n cael llai o arian i’w wario ar ddarlledu yng Nghymru nag sydd gennym ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd fod rhaid edrych eto ar “ymarferoldeb” datganoli darlledu i Gymru.

Darlledu yn Gymraeg

Serch hynny, mae’r Athro McElroy yn dweud y gallai’r drefn fod yn wahanol ar gyfer gwasanaeth darlledu Cymraeg.

Mewn dadl yn y Senedd ym Mae Caerdydd, roedd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Sian Gwenllian wedi dadlau ei bod yn “bwysicach nag erioed” fod darlledu’n cael ei ddatganoli i Gymru “er mwyn sicrhau bod llwyfan i lais Cymru”.

Ond mae’r Gweinidog Diwylliant, yr Arglwydd Elis-Thomas, y darlithydd Dr Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth a Guto Harri ymhlith y rhai sy’n dweud nad nawr yw’r amser i ddatganoli grymoedd darlledu.

Dyletswyddau’r darlledwyr

Mae’n rhaid i’r BBC gynhyrchu o leiaf 470 awr o raglenni Cymreig bob blwyddyn, a 250 o’r oriau hynny ar gyfer rhaglenni newyddion.

Mae’n rhaid i ITV ddarlledu pum awr a hanner o raglenni newyddion Cymreig bob wythnos.

Fe fydd adroddiad annibynnol ar S4C yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Ymprydio

Fe fu’r myfyriwr Elfed Wyn Jones yn ymprydio’n ddiweddar er mwyn galw am ddatganoli darlledu i Gymru.

“Dw i wir yn teimlo bod y mater yma’n dyngedfennol i’n democratiaeth ni yng Nghymru,” meddai cyn ymprydio.

“Os nad ydi pobol yn cael y ffeithiau cywir am y bobol sy’n gwneud penderfyniadau yn ein henw ni, os nad ydyn ni’n dallt sut maen nhw’n cael eu llywodraethu, mae democratiaeth Cymru dan fygythiad difrifol.

“Ar hyn o bryd mae llai na hanner y boblogaeth yn sylweddoli mai’r Senedd yng Nghaerdydd sy’n rheoli iechyd, er gwaethaf ugain mlynedd o ddatganoli.

“Er mwyn sicrhau atebolrwydd a chraffu digonol ar ein gwleidyddion, mae’n rhaid i benderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru.”