Mae defnyddwyr Facebook yn cael eu hannog i rannu lluniau o eira prin ar Ynys Enlli.
Mae nifer o luniau eisoes wedi’u cyhoeddi ar y dudalen ‘Ynys Enlli / Bardsey Island‘.
Mewn neges, dywed gweinyddwyr y dudalen, “Dim yn aml bydd eira fel hyn yn Enlli. Mae mwy wedi disgyn dros nos neithiwr. Gobeithio eich bod yn hoffi’r lluniau? Mae croeso i chi rannu nhw.”
Mae 270 o bobol wedi ‘hoffi’ y lluniau, a 167 o bobol wedi eu rhannu.
Mae mwy na 3,400 o bobol wedi ‘hoffi’ y dudalen.
Yr ynys
Prynodd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yr ynys yn 1979.
Yr Ymddiriedolaeth sy’n rheoli’r ynys erbyn hyn gyda chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW.
Mae’n Warchodfa Natur Genedlaethol, yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn rhan o Ardal Harddwch Penrhyn Llŷn.
Mae’r ynys hefyd yn Ardal Gadwraeth Arbennig yn sgil y cynefinoedd a’r rhywogaethau sy’n byw yno, ac mae’r adar yn destun rhaglen gadwraeth arbennig.
Mae 12 eiddo ar yr ynys, a phob un wedi’i restru. Mae naw ohonyn nhw ar gael ar gyfer gwyliau.