Fe fydd ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda “ar agor fel arfer” ddydd Llun.

Dyna neges y bwrdd iechyd yn dilyn yr eira dros y dyddiau diwethaf, oedd wedi arwain at ganslo rhai triniaethau a chlinigau yn Sir Benfro.

Pe bai rhagor o oedi, meddai’r bwrdd, fe fydd cleifion yn cael clywed ganddyn nhw.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Steve Moore: “Rwy’n falch ein bod wedi medru cynnal y mwyafrif o wasanaethau yn ystod y tywydd garw ac mae’r diolch am hynny yn mynd i ymrwymiad ein staff sydd wedi cyd-dynnu er lles ein cleifion.

“Diolch hefyd i’n cleifion am eu cefnogaeth ac am ddeall, yn ogystal â’n partneriaid a’n gwirfoddolwyr.

“Efallai ein bod wedi profi tywydd oer iawn, ond rydym hefyd wedi profi ysbryd cymunedol gwresog iawn.”