Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddynes 22 oed gael ei tharo a’i lladd gan fws mini wrth iddi gerdded ym Mhorthcawl yn oriau man bore Sul.

Cafodd yr heddlu eu galw am 1.54yb yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad ar yr A4106 rhwng cylchfannau Stryd John a Heol Drenewydd yn Notais.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un â gwybodaeth am y ffordd yr oedd y bws mini Ford Tourneo Custom yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.

Mae teulu’r ddynes yn derbyn cefnogaeth.