Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud ail apêl am wybodaeth am ddyn o Gaergybi sydd ar goll.

Yn dilyn help gan y cyhoedd, mae’r heddlu wedi cael gwybod i Anthony Haigh, 49 oed, gael ei weld am ddiwethaf yn cerdded ar hyd Stryd Bedyddwyr, Caergybi tua 21:40 nos Wener, 23 Chwefror 2018.

Roed yn gwisgo siaced fflîs ddu, jîns golau a sgidiau Adidas. Caiff ei ddisgrifio fel dyn 5’9’’ o daldra o bryd golau, maint corff cyhyrog a gwallt brown byr.

“Rydym yn bryderus iawn am Anthony gan nad yw neb wedi ei weld ers yr wythnos ddiwethaf,” meddai’r Rhingyll Steve Pawson, sy’n arwain yr ymchwiliad.

“Rydym yn awyddus i ddarganfod ble bu Anthony yn ardal Caergybi ar ôl 21:40 nos Wener 23 Chwefror 2018. Dw i’n apelio’n uniongyrchol at unrhyw un a’i gwelodd o’r amser yma ymlaen, neu sydd â gwybodaeth allai ein harwain ni ato fo, i roi galwad i ni ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 19858.”