Cau dwy ysgol, ehangu ysgol eglwys a chodi ysgol fawr newydd yw rhai o’r dewisiadau ar gyfer ad-drefnu addysg gynradd ym Mangor y mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu ymgynghori arnyn nhw’n fuan.

Ymhlith argymhellion adroddiad a fydd yn cael ei drafod gan gabinet y Cyngor ar 13 Mawrth mae

  • Codi ysgol newydd i 420 o blant ar dir Ysgol y Garnedd
  • Cau ysgolion Coedmawr a Glanadda
  • Ymgynghori gyda’r Eglwys yng Nghymru ar ehangu Ysgol y Faenol i greu lle i 315 o blant.

Mae’r argymhellion yn rhan o gynllun gwerth £12.7 miliwn i wella addysg gynradd yn y ddinas. Mae’r arian yn cynnwys cyfraniad o £6.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ac ymrwymiad gan gwmni datblygwyr tai Redrow, fel rhan o gytundeb ar gyfer datblygiad newydd Goetre Uchaf ym Mhenrhosgarnedd.

‘Addas ar gyfer yr 21ain ganrif’

Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:

“Mae’r buddsoddiad o £12.7 miliwn sydd wedi ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru, am sicrhau fod plant yr ardal yn cael eu haddysgu ar safle sy’n darparu amgylchedd ddysgu sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

“Er yn derbyn fod unrhyw opsiwn sy’n ystyried cau safleoedd yn benderfyniad anodd, rydw i’n teimlo fod yr opsiwn sydd gerbron yn cynnig cyfle i ni wella’r ddarpariaeth addysgol ym Mangor ac yn rhoi cyfle i ni gryfhau y ddarpariaeth Gymraeg yn y ddinas.

“Ein nod fel Cyngor ydi gallu cynnig profiadau a chyfleoedd gorau posib i’n holl ddisgyblion – a hynny mewn cymunedau ar draws y sir.”