Mae Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi cynlluniau a fydd yn golygu £14m ar gyfer gwaith cynnal a chadw ysgolion.

Fe fydd y cyllid newydd hwn yn galluogi ysgolion i wario ar bethau fel boeleri a gwaith plymio ar doiledau, costau gofalwyr, panetio ac addurno, plastro neu atgyweirio lloriau.

Yr awdurdodau lleol fydd yn derbyn y cyllid yn gyntaf, cyn cael ei rannu i’r ysgolion.

Yn ôl Kirsty Williams, cŵyn mae’n clywed yn aml gan athrawon a phenaethiaid ysgol ledled Cymru yw bod amser ac arian yn “mynd yn rhy aml” ar gynnal a chadw ysgolion, a hynny ar draul yr addysgu.

“Bydd hyn yn help gyda chostau cynnal a chadw a mân atgyweiriadau, gan leddfu’r pwysau ar gyllidebau ysgolion. Bydd pob ysgol, ledled Cymru, yn gallu manteisio ar yr arian hwn – bydd yn mynd ar ei union i’r rheng flaen.

“Gobeithio y gall awdurdodau anfon yr arian ymlaen at ysgolion cyn gynted â phosib er mwyn i waith pwysig gael ei wneud.”