Mae ymgyrchydd iaith wedi taflu dŵr oer am ben yr alwad gan Aelod Cynulliad Ceidwadol i ddeddfu fel bod pob cyngor tref a chymuned yng Nghymru yn gweithredu yn ddwyieithog.

Yn ôl Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, fe ddylai’r cynghorau hyn fod yn gwneud popeth yn Gymraeg a Saesneg.

Mae llefarydd yr wrthblaid ar Lywodraeth Leol yn y Cynulliad, yn dweud iddi orfod brwydro tros etholwyr uniaith Saesneg er mwyn cael gwasanaeth dwyieithog gan gyngor cymuned.

“Ar ôl cael gwybod y llynedd bod y di-Gymraeg yn cael eu hatal o’r broses ddemocrataidd yn un cyngor cymuned yn yr etholaeth hon y mae’n anrhydedd i mi ei chynrychioli, roeddwn yn hapus i weithio gyda nhw i sicrhau bod cofnodion cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg,” meddai Janet Finch-Saunders.

“Wrth hyrwyddo dwyieithrwydd yn un cyngor cymuned, sylweddolais trwy ohebu â chynrychiolwyr y cyngor hwnnw, Llywodraeth Cymru a Mr Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr Un Llais Cymru, bod yna ddiffyg mawr yn neddfwriaeth Llywodraeth Cymru:  nid oes unrhyw ofynion statudol i gynghorau cymuned a thref gyhoeddi cofnodion yn ddwyieithog – dim ond canllawiau.

“Gall hyn olygu bod rhai cynghorau yn gwrthod cyhoeddi cofnodion Saesneg, a gall cynghorau eraill wrthod cyhoeddi cofnodion Cymraeg. Mae’r sefyllfa hon yn annerbyniol, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddeddfu er mwyn sicrhau nad yw pobl sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg fel mamiaith yn cael eu heithrio. Mae’r ffaith nad oes unrhyw un o Lywodraethau Cymru Llafur/Democratiaid Rhyddfrydol/Plaid Cymru ers 1999 wedi gwneud hyn eisoes yn bradychu’r ddwy iaith a dwyieithrwydd.

‘Na’ meddai Cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog

Ni ddylai bod modd gorfodi cyngor tref neu gymuned i weithredu yn ddwyieithog, yn ôl ymgyrchydd iaith amlwg.

Mae Simon Brooks yn Gadeirydd Cyngor Tref Porthmadog  sy’n gweithredu’n uniaith Gymraeg, ac yn credu bod hynny yn “gyson a theg”.

“Os ydych yn dweud, er enghraifft, bod rhaid i agenda gael ei baratoi mewn cyngor Cymuned yn ddwyieithog yn y gogledd orllewin, mae rhaid i chi sicrhau bod yr agenda yna’n cael ei baratoi yn ddwyieithog ym mhob un cyngor cymuned trwy Gymru gyfan,” meddai Simon Brooks.

“Os ydych yn dweud bod angen darparu offer cyfieithu yn y gogledd orllewin achos bod nhw’n Gymraeg, yna yn fy marn i, mae yn rhaid i chi sicrhau bod offer cyfieithu ar gael ym mhob cyngor cymuned trwy Gymru gyfan.”

Er hyn i gyd mae’n mynnu nad yw o blaid deddfu ar y mater gan nodi bod y sefyllfa sydd ohoni yn “ddigon da” ac y byddai’n “gwbl afresymol” o ystyried nad ydy pwyllgorau’r Cynulliad yn cofnodi eu trafodaethau yn ddwyieithog.

Gwrthod enwi’r cyngor cymuned dan sylw

Er i golwg360 ofyn pa gyngor cymuned yn etholaeth Aberconwy sydd wedi troi at weithredu yn ddwyieithog, nid oedd Janet Finch-Saunders am ddatgelu’r cyngor dan sylw am eu bod wedi “ymateb yn bositif ac maen nhw’n gweithio’n galed”.

Ond dywedodd Simon Brooks: “Dw i’n siomedig bob tro pan mae cynghorau cymuned Cymraeg yn plygu i’r pwysau yma.”