Fe wnaeth cannoedd o bobol orymdeithio yn Wrecsam ddoe er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, a hynny er gwaethaf y tywydd oer.

Mae gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi tref Wrecsam, sy’n cael ei drefnu gan Fenter Iaith Sir Fflint a Wrecsam, ynghyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, bellach yn ddigwyddiad sy’n cael ei gynnal yn flynyddol.

Ac er gwaethaf y rhew a’r eira a oedd yn chwipio dros rannau helaeth o Gymru ddoe, fe ymunodd cannoedd o unigolion a sefydliadau i ddathlu diwrnod nawddsant Cymru – gan gynnwys plant, Mudiad Meithrin, Prifysgol Glyndŵr a chynrychiolwyr o garchar y Berwyn.

Cafwyd hefyd berfformiadau ar ddiwedd y daith i ddiddanu’r dorf, ynghyd â seremoni gwobrwyo’r gystadleuaeth addurno ffenestri – sy’n annog busnesau lleol i addurno eu ffenestri ar y thema o Ddydd Gŵyl Dewi a Chymreictod.

“Edrych ymlaen” at flwyddyn nesaf

 “Gwych iawn eto eleni i weld cymaint o blant Wrecsam yn ymuno yn y dathliadau er gwaethaf y tywydd eithriadol o oer,” meddai Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam.

“Braf iawn hefyd oedd gweld cymaint o bobl lleol yn benderfynol o ddod allan i gymryd rhan yn y parêd.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld yr orymdaith yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd a pharhau i ddod â’r gymuned at ei gilydd i’r dyfodol.”