Bydd arddangosfa yn agor yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd yr wythnos nesaf er mwyn nodi can mlynedd ers i rai merched ennill yr hawl i bleidleisio.

Nod yr arddangosfa, a fydd yn cael ei agor ar Fawrth 6, yw canolbwyntio ar yr ymgyrchoedd amrywiol a gafodd eu harwain gan ferched yng Nghymru i sicrhau’r hawl i bleidleisio – gyda’r hawl hwnnw’n cael ei roi dan Ddeddf Gynrychiolaeth y Bobl yn 1918.

Prif ganolbwynt yr arddangosfa fydd portread o Margaret Haig Thomas (1883-1958), ail Is-Iarlles y Rhondda, a oedd yn swffragét amlwg yng Nghymru yn ei dydd.

Diwrnod o gofio

 Ynghyd â’r arddangosfa, fe fydd plac yn cael ei ddadorchuddio er cof am y cyn-Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe, Val Field, a wnaeth llawer i annog merched i fod yn rhan o wleidyddiaeth Cymru cyn iddi farw yn 2001.

Fe fydd y diwrnod hefyd yn cynnwys cyfres o ddarlithiau am hanes y Swffragetiaid yng Nghymru, ynghyd â pherfformiad byr gan Opera Cenedlaethol Cymru o’r cynhyrchiad newydd, ‘Rhondda Rips it Up!’, sy’n adrodd hanes Margaret Haig Thomas.

Bydd y cynhyrchiad hwnnw’n cael ei berfformio’n llawn am y tro cyntaf ar Fehefin 7 yn The Riverfront yng Nghasnewydd.