Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi agor swyddfa Llywodraeth Cymru yn Montreal yn swyddogol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu agor swyddfa yng Nghanada fel rhan o’u cynllun i ledaenu enw Cymru ledled y byd, gan hybu masnach a buddsoddiad.

Mae’r cam hwn hefyd yn enghraifft o Gymru yn “paratoi”, yn ôl Carwyn Jones, ar gyfer sefyllfa lle bydd y Deyrnas Unedig yn gadael y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau wedi Brexit.

Canada’n bartner pwysig

Mae’r wlad ar draws môr y Iwerydd ar hyn o bryd yn datblygu’n farchnad bwysig i Gymru, gydag allforion i Ganada ym mis Mehefin 2017 wedi cynyddu 70% o’r un yr oedd y flwyddyn gynt.

Mae Canada hefyd wedi buddsoddi llawer yng Nghymru, gyda 25 o gwmnïau wedi dewis sefydlu yn y wlad, gan gyflogi dros 4,000 o bobol.

Mae hefyd bron i 200 o fyfyrwyr o Ganada yn astudio mewn prifysgolion yng Nghymru, a’r gobaith yw y bydd y swyddfa hon “yn cryfhau’r cysylltiad sydd gan y ddwy wlad o ran addysg.”

“Paratoi” ar gyfer Brexit

“Mae agor ein swyddfa newydd ym Montréal yn brawf o’r camau cadarnhaol a rhagweithiol rydyn ni’n eu cymryd i gynyddu ein presenoldeb mewn marchnadoedd byd-eang pwysig fel Canada, a chynyddu masnach a mewnfuddsoddiad,” meddai Carwyn Jones.

“Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth i ni baratoi ar gyfer y posibilrwydd – nad ydyn ni am ei weld – o orfod masnachu y tu allan i’r Farchnad Sengl ac Undeb Tollau’r Undeb Ewropeaidd.”