Mae prifysgol yng Nghymru wedi bod yn cydweithio â Hillary Clinton er mwyn sefydlu ysgoloriaeth i fyfyrwyr sy’n dymuno ymchwilio i hawliau dynol plant.

Nod y cynllun ysgoloriaeth, sy’n gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, Hillary Clinton a Llywodraeth Cymru, yw sicrhau nawdd i fyfyrwyr PhD allu gwneud ymchwil ym maes hawliau dynol plant, ynghyd ag ariannu adroddiadau, seminarau a datblygu senedd i’r ifanc yng Nghymru.

Y llynedd cafodd cyn-ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau ei chyflwyno â gradd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe, ac mae ysgol gyfraith y brifysgol wedi’i henwi’n Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.

Balchder

“Mae’r [cynllun hwn] yn adeiladu ar waith blaenllaw yr Arsyllfa ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc,” meddai dirprwy Ganghellor Prifysgol Abertawe, Ben Davies. “Ac ry’n ni’n falch y bydd y cynllun hwn yn cynnwys ysgolheigion o sefydliadau rhyngwladol sy’n bartneriaid i ni.”

Mae gan Hillary Clinton gysylltiadau Cymreig ar ochr ei thad, gydag hen dad-cu yn hanu o Langynidr, a hen fam-gu o’r Fenni.