Mae’n rhaid i ni fynd ati i stopio Brexit trwy gynnal refferendwm. Dyna yw safbwynt Arglwydd o Loegr a fydd yn ymweld â gogledd Cymru ddiwedd yr wythnos hon.

Ers dechrau mis Chwefror, mae’r Arglwydd Andrew Adonis wedi bod ar daith o gwmpas gwledydd Prydain wnaeth pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Y penwythnos hwn, fe fydd yn ymweld â Chaergybi a Llandudno gyda neges benodol, sef bod angen gwrthwynebu Brexit trwy “ddulliau democrataidd”.

“Mae democratiaeth yn gofyn bod refferendwm yn cael ei gynnal ar y cytundeb [Brexit],” meddai wrth golwg360.

“Ddwy flynedd yn ôl pan oedd pobol yn pleidleisio ar egwyddor Brexit, doedd dim posib iddyn nhw wybod beth oedd telerau Brexit, oherwydd doedd na ddim telerau. Yr oll oedd ganddyn nhw oedd addewidion, ac mae wedi dod i’r amlwg mai celwyddau oedd llawer o’r rhain.

“Mae pobol yn agor eu llygaid i’r ffaith nad oes modd gwireddu’r addewidion cafwyd eu cynnig dwy flynedd yn ôl,” meddai wedyn.

“Dyna pam mae’n rhaid cynnal refferendwm, oherwydd un peth yw cynnig cyfres o addewidion i bobol, a gofyn a hoffen nhw eu cael. Peth arall yw dod wyneb yn wyneb â realiti oeraidd Brexit.”

Ail refferendwm?

Mae’n mynnu nad “ail refferendwm” fyddai hwn fel y cyfryw – gan nodi y byddem yn pleidleisio mewn cyd – destun gwahanol, ac yn galw ar bobol i “weithredu” i sicrhau y bydd yn cael ei gynnal.

Mae Andrew Adonis yn rhagweld y bydd “argyfwng seneddol” yn taro San Steffan ym mis Hydref pan fydd Theresa May yn dychwelyd o Frwsel â’i chytundeb – a dyna pryd fydd barn y cyhoedd yn newid go iawn, meddai.