Mae’r diwydiant olew yn ne Sir Benfro wedi derbyn hwb sylweddol, wrth i’r cwmni olew, Valero, benderfynu ehangu eu purfa yn yr ardal.

Fe fydd y cwmni, sy’n cynhyrchu 220,000 casgen o olew y dydd, yn buddsoddi £123m i adeiladu uned newydd a fydd yn sicrhau eu bod nhw’n gallu cynhyrchu ynni yn fwy effeithiol a chynaliadwy.

Fe fydd y prosiect hwn yn sicrhau bod Valero yn gallu parhau i gyflogi’r 1,000 o weithwyr a chontractwyr sy’n gweithio yno ar hyn o bryd, ac fe fydd diwrnod agored yn cael ei gynnal ar gyfer pobol leol i drafod y cyfleon gwaith a ddaw o ohono.

Yn ôl Ed Tomp, is-lywydd a rheolwr Valero yn y Deyrnas Unedig, mae’r hwb ariannol hwn yn “fuddsoddiad enfawr” yn yr economi Cymreig.

Cefnogaeth Llywodraeth Cymru a San Steffan

Dim ond yr wythnos ddiwethaf y bu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn Washington yn yr Unol Daleithiau yn cynnal trafodaethau gyda Valero ynglŷn â’r buddsoddiad hwn.

Fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn ystod ymweliad â Sir Benfro dro yn ôl hefyd, fod gan y diwydiant olew yno “gefnogaeth lawn Llywodraeth Prydain” er mwyn sicrhau bod cwmnïau’n gwneud buddsoddiadau.