Mae Cymry Llundain “yr un mor danbaid” dros Gymru ag yr ydi Cymry gartref yn y famwlad, yn ôl pennaeth canolfan Cymry’r ddinas.

Yn ôl Ceri Wyn, Prif Weithredwr Canolfan Cymry Llundain, mae gan Gymry alltud duedd i hiraethu ac i fod yn “fwy rhamantaidd” am adref.

Ond, mae hi hefyd yn credu bod cymdeithas y ddinas yn cadw llygad craff ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru, ac yr un mor angerddol â’r Cymry tu draw i Glawdd Offa.

“Dydyn ni ddim yn troi ein cefnau ar Gymru trwy ddod i Lundain,” meddai wrth golwg360.

“Dw i ar y ffôn bob dydd gyda Mam a Dad – dw i’n gwybod beth sy’n digwydd. Efallai bod yna duedd i fod yn fwy rhamantaidd ond dw i yn teimlo bod pobol yn Llundain yr un mor danbaid am Gymru lle bynnag maen nhw’n byw.”

Mae’n nodi bod yna “batrwm lle mae pobol yn colli eu hunain yn y ddinas am ychydig”, ond mae’n ychwanegu bod pawb yn “ffeindio” eu Cymreictod yn y pendraw.

Ffynnu

O ran y gymuned Gymreig yn Llundain, mae Ceri Wyn yn dweud bod degau o filoedd yn byw yno a’u bod yn “ffynnu” ac wedi “hoelio [eu] marc”.

“Rydan ni’n atynnu mwy o bobol o Gymru,” meddai am y Ganolfan, gan ychwanegu eu bod yn ceisio denu pobol ifanc ac yn llwyddo wrth wneud hynny.

Mae’n debyg bod sawl digwyddiad gyda’r Ganolfan ar y gweill gan gynnwys: ‘Wythnos Cymry yn Llundain’, Twmpath Dydd Gŵyl Dewi ac Emporiwm Gymreig.