Brexit yn dominyddu’r penawdau newyddion, Ewrop fydd thema cinio arbennig yn Llandudno tros y penwythnos nesaf.

‘Pawb gyda’i gilydd tros Ewrop’ yw enw’r digwyddiad ac ymhlith y siaradwyr gwadd mae’r Arglwydd Adonis ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds.

Bydd y noson yn cael ei chynnal yng Ngwesty Risboro ddydd Sul (Mawrth 4) gyda’r Arglwydd Roger Roberts, a’r Arglwyddes Christine Humphreys yn cyflwyno.

Mae’r digwyddiad wedi’i threfnu gan y Democratiaid Rhyddfrydol, ond bydd aelodau o bob plaid yn cymryd rhan.