Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi i chwe cherbyd gael eu darganfod ar dân yn Y Fenni.

Cawson nhw eu darganfod yn llosgi ar Ystâd Ddiwydiannol Ffordd yr Undeb, yn ystod oriau mân fore ddydd Sadwrn (Chwefror 24).

Bellach mae heddlu yn credu cafodd y ceir eu cynnau yn “fwriadol” ac maen nhw wedi galw ar unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Mae’r llu yn nodi y byddai unrhyw un oedd ynghlwm wedi arogli fel mwg, wedi meddu ar offer tanio ac o bosib wedi cael eu niweidio gan y tân.

Mae clip o’r digwyddiad i’w weld isod…