Fe fydd £3m yn ychwanegol yn cae ei roi at gynllun gwerth £7m i adfywio twristiaeth mewn ardal lan y môr yn Sir Gaerfyrddin, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Yn ystod ei ymweliad â Phentywyn ddydd Mawrth (Chwefror 27), fe gyhoeddodd y Gweinidog Twristiaeth, Dafydd Elis-Thomas, y bydd cyllid ychwanegol o’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei roi i Brosiect Denu Twristiaeth Pentywyn.

Nod y prosiect hwn yw mynd i afael â’r dirywiad sy’n digwydd i dwristiaeth Pentywyn, ac maen cynnwys adeiladu amgueddfa gelf fodern o’r enw ‘Yr Amgueddfa Cyflymder’ – canolfan awyr agored ar gyfer arddangosfeydd; a hostel 42 llofft.

Ers 2010, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi bod yn datblygu’r ardal arfordirol yn ne’r sir, gan wella’r prif lwybrau i bentref Pentywyn, adeiladu promenâd gwerth £800,000 yn 2013, ynghyd ag agor Canolfan Parry-Thomas yn 2012 ar gost o £1m.

“Cymell pobol i ymweld â Chymru”

“Ein nod, drwy’r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yw canolbwyntio ymdrechion a buddsoddiad ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth er mwyn cael effaith go iawn ar broffil Cymru yn y farchnad gystadleuol fyd-eang hon,” meddai Dafydd Elis-Thomas.

“Mae prosiectau fel hwn yn Pentywyn yn cymell pobol i ymweld â Chymru, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cynlluniau yn dwyn ffrwyth – bydd hwn yn hwb mawr i Sir Gaerfyrddin a de-orllewin Cymru.”