Mae dyn 44 oed o Lanhari wedi gyhuddo heddiw o ddynladdiad yn dilyn digwyddiad ym Maesteg y llynedd.

Fe fu farw Gavin Rees, 24 oed, dair wythnos ar ôl iddo dderbyn anafiadau difrifol mewn ymosodiad ym maes parcio Ysbyty Cymunedol Maesteg ar Awst 30, 2017.

Fe fydd Jeffrey Shepherd, sydd wedi bod ar fechnïaeth ers y digwyddiad, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar Fawrth 30.