Fe fydd £7.5m o arian ychwanegol yn cael ei roi ar gyfer gwella’r ffordd y mae sbwriel yn cael ei gasglu a’i ddidoli ar gyfer ailgylchu, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Yn ol Gweinidog yr Amgylchedd, fe ddylai hyn fod yn gymorth i awdurdodau lleol gyrraedd targed y Llywodraeth ar gyfer ailgylchu ac yn gam tuag at greu gwlad sy’n ddiwastraff.

Bydd yr arian yn cael ei reoli drwy’r Rhaglen Newid Gydweithredol, ac yn rhoi cymorth i awdurdodau lleol trwy gyfrwng grantiau.

Cymru ar y blaen

Daw’r cyhoeddiad hwn ychydig ddiwrnodau ar ôl i Ddatganiad Ystadegol y Deyrnas Unedig ddangos bod Cymru wedi cynyddu’r bwlch o ran ailgylchu trefol rhyngddi a gweddill y Deyrnas Unedig – gan fod 12% yn uwch na’r gyfartaledd genedlaethol.

Mae adroddiad annibynnol a gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar hefyd yn dangos mai cyfradd ailgylchu cartrefi yng Nghymru yw’r ail yn Ewrop.

“Nid da lle gellir gwell”

“Mae hyn yn newyddion gwych,” meddai Hannah Blythyn. “ond nid da lle gellir gwell.

“Mae’n canlyniadau ailgylchu wedi cael hwb mawr diolch i’r gwelliannau a’r arbenigedd a gafodd eu darparu gan Lywodraeth Cymru.”

“Dyma pam dw i’n neilltu £7.5m ar gyfer y Rhaglen Newid Gydweithredol.”