Mae Cymru a’r Alban wedi wfftio cynnig gan Lywodraeth Theresa May i addasu’r mesur Brexit er mwyn mynd i’r afael a’u pryderon.

Mae San Steffan yn anghydweld a Holyrood a Bae Caerdydd ynglŷn â’r pwerau a fydd yn dychwelyd o Frwsel wedi Brexit.

Dywedodd y gweinidog yn y Cabinet, David Lidington bod y Llywodraeth wedi gwneud “cynnig sylweddol” i’r gweinyddiaethau datganoledig gydag ymrwymiad y byddai “cyfran helaeth” o’r pwerau a fydd yn dychwelyd o Frwsel yn cael eu rhoi i Gaerdydd, Caeredin a Belffast yn hytrach na Whitehall.

Mae’n mynnu byddai’r cynnig yn “cryfhau ac yn gwella’r” setliadau datganoli. Byddai hyn meddai, yn golygu “newid mawr iawn i’r Mesur Ymadael sydd gerbron y Senedd a byddai’n gam sylweddol ymlaen yn y trafodaethau.”

Ond mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dweud bod angen “mwy na geiriau cynnes” oherwydd bod y fersiwn gyfredol o’r ddeddfwriaeth “yn ymosodiad annerbyniol ar ddatganoli.”

Ac mae gweinidog Brexit yr Alban Michael Russell wedi cyhuddo’r Llywodraeth o geisio “ail-ysgrifennu’r setliad datganoli.”

“Croesfan”

Fe wnaeth David Lidington ei araith yn ystod ymweliad a ffatri Airbus ym Mrychdyn yn Sir y Fflint gan alw am undod yn y broses Brexit.

Dywedodd na ddylai Brexit gael ei ddefnyddio fel esgus i chwalu’r Deyrnas Unedig “yn ystod croesfan yn ein hanes.”

Fe fyddai torri cysylltiad yn gadael pob un o’r pedair cenedl yn “wannach ac yn dlotach”, yn ôl David Lidington.

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones a Phrif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi bod yn feirniadol o’r modd mae’r gweinyddiaethau datganoledig wedi cael eu trin yn ystod y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.