Wrth i’r rhagolygon tywydd rybuddio am dymereddau isel iawn yr wythnos hon, mae’r cyhoedd yn cael eu cynghori i gadw llygad ar ffrindiau a theulu bregus.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn galw ar bobol i “gymryd gofal arbennig” o unigolion mewn angen ac i fod yn wyliadwrus.

“Osgowch amodau oer neu rewllyd yn yr awyr agored os ydych yn wynebu risg uwch o salwch neu gwympiadau sy’n gysylltiedig ag oerfel,” meddai’r ymgynghorydd â ICC, Huw Brunt.

“Ac os ydych yn heini ac yn iach, trafodwch â ffrindiau a chymdogion drefniadau ar gyfer clirio eira ac iâ o’r ardal o flaen eich tŷ a rhodfeydd cyhoeddus gerllaw.”

Mae’r corff hefyd yn rhybuddio bod oerfel yn cynyddu’r risg o ddal afiechydon gan gynnwys y ffliw, ac maen nhw’n galw ar y cyhoedd i gael brechiadau os yn gymwys.

Cyngor ICC

  • Cadwch dymheredd dan do o leiaf 18°C
  • Cadwch lygad ar y rhagolygon tywydd
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych gyflenwad digonol o fwyd a meddyginiaeth
  • Ceisiwch am fudd-daliadau tanwydd os yn gymwys