Wrth i’r ffrae fewnol rhwng Plaid Cymru ganolog a changen Tref Llanelli barhau, bydd uwch-swyddogion y blaid yn cyfarfod â’r gangen yn nes ymlaen heddiw (Chwefror 26).

Daw’r cyfarfod ychydig ddyddiau wedi i’r blaid gyhoeddi bod y gangen wedi’i diarddel “dros dro” am dorri eu “rheolau sefydlog”.

Mae golwg360 yn deall y bydd y cyfarfod yn digwydd yn Llanelli am 7.30yh.

Cefndir

Ffactor sydd wrth wraidd y ffrae, yw penderfyniad Plaid Cymru i benodi Mari Arthur yn ymgeisydd i etholaeth Llanelli yn yr etholiad cyffredinol.

Roedd aelodau’r gangen wedi gwrthwynebu’r penderfyniad, ac yn sgil hyn cafodd dau aelod o’r blaid yn Llangennech ger Llanelli, eu gwahardd.

Bellach mae un o’r ddau yma, Gwyn Hopkins, wedi ymddiswyddo’n swyddogol o’r Blaid