Mae tref a phentref yng nghanolbarth Cymru wedi cyrraedd rhestr fer o drefi sydd yn hwylus i gerddwyr.

Nod gwobr ‘Cymdogaethau Gorau Prydain i Gerdded’ yw dathlu trefi sydd yn “blaenoriaethu” cerddwyr, ac ymysg y deg sydd ar restr fer y wobr eleni mae’r Drenewydd a Llanllwchaearn ym Mhowys.

Yn ôl trefnwyr y wobr, elusen cerddwyr The Ramblers, bydd enillydd y wobr yn meddu ar lwybrau cerdded cyfleus, a gyda strydoedd sydd wedi’u cynllunio’n dda.

“Mae’r deg cymdogaeth ar y rhestr fer wedi eu cynllunio i flaenoriaethu pobol sy’n cerdded,” meddai Prif Weithredwr The Ramblers, Vanessa Griffiths.

“Rydym yn dathlu’r ardaloedd yma, ac yn galw ar awdurdodau lleol i feddwl am sut y gallan nhw gyflwyno newidiadau i wneud llefydd yn haws i gerddwyr.”

Y rhestr fer

  • Diglis, Caerwrangon, Swydd Gaerwrangon
  • DG1, Dumfries, yr Alban
  • Hackney, Llundain
  • Hastings Old Town, East Sussex
  • Kirkby Stephen, Cumbria
  • Y Drenewydd a Llanllwchaearn, Powys, Wales
  • Salford, Manceinion
  • Stocksbridge, De Swydd Efrog
  • Town Moor, Newcastle upon Tyne
  • Walthamstow, Llundain