Mae’r Swyddfa Dywydd wedi darogan y bydd cawodydd eira yn rhannau o Gymru ddydd Llun.

Maen nhw wedi rhybuddio am dywydd oerach nag arfer yn ystod yr wythnos i ddod, ac mae rhybudd melyn yn ei le o ddydd Llun i ddydd Mercher.

Mae disgwyl cryn oedi ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd ledled gwledydd Prydain, ac fe allai teithiau awyr gael eu heffeithio hefyd.

Mae lle i gredu y gallai hyd at 20cm o eira gwympo yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ond cawodydd yn unig yw’r dyfalu o safbwynt Cymru ar gyfer dydd Llun.

Mae’r tymheredd dros y penwythnos wedi gostwng i -5 gradd selsiws mewn rhai ardaloedd – y tymheredd isaf ar gyfer wythnos olaf mis Chwefror ers 1986.