Roedd tad April Jones, y ferch fach o Fachynlleth a gafodd ei llofruddio yn 2012, wedi anghofio bod ei ferch wedi marw, ar ôl iddo dioddef o firws a threulio blwyddyn yn yr ysbyty.

Yn ôl ei mam Coral Jones, fe fu’n rhaid i Paul Jones ddysgu eilwaith am farwolaeth eu merch ar ôl bod yn dioddef o enseffalitis a threulio dros flwyddyn yn yr ysbyty.

Roedd wedi gofyn iddi pam nad oedd eu merch wedi bod i ymweld â fe yn yr ysbyty, ond fe gofiodd amdani ar ôl cael gweld lluniau, cyn gofyn pam nad oedd hi gyda nhw bellach.

Dywedodd Coral Jones wrth y Sunday People: “Fe wnaeth e ofyn, “Beth ddigwyddodd i April?

“Roedd rhaid i fi ddweud wrtho fe nad oedd hi gyda ni bellach a’i bod hi wedi cael ei lladd.

“Fe wnaeth e dorri i lawr. Roedd hi’n sgwrs ofnadwy oherwydd roedd e mor emosiynol ac roedd hi mor anodd i fi siarad am y peth. Allwn i ddim cario ymlaen. Roedd hi fel ail-fyw’r cyfan drosodd a throsodd.”

Effaith ar y teulu

Cafodd April Jones ei chipio gan Mark Bridger o’r tu allan i’w chartref ar Hydref 1, 2012 a’i llofruddio gan Mark Bridger.

Rhoddodd y cyfan straen ar briodas Paul a Coral Jones, ac roedd salwch Paul yn ergyd bellach i’r teulu.

Dywedodd Coral Jones: “Faint yn rhagor all fy nheulu ei gymryd? Dw i eisoes wedi colli fy merch a nawr dw i wedi colli fy nghymar a dw i’n teimlo mor unig.

“Paul yw’r unig un all wir ddeall y boen dw i wedi ei theimlo tros golli April.”